Newyddion

Set-jetio: y ffasiwn ddiweddaraf sy'n dangos Cymru i'r byd

House of Dragon filming - credit: Theo Whiteman | HBO

Set-jetio - mynd am wyliau i lefydd sydd wedi ymddangos mewn ffilm neu deledu adnabyddus - yw'r duedd ddiweddaraf sydd wedi sicrhau lle i Gymru ar restr y 'lleoedd gorau i ymweld â nhw' yn 2025.

Yn dilyn llwyddiant y bennod deledu gafodd y nifer uchaf o wylwyr dros y Nadolig yn y ganrif ddiwethaf, a chyflwyno lleoliadau sgrin di-rif yng Nghymru i gynulleidfa fyd-eang yn 2024, mae effeithiau hyn ar dwristiaeth Cymru yn cynyddu. 

Mae dylanwad Gavin a Stacey ar dwristiaeth wedi para 17 mlynedd, ond erbyn wythnos gyntaf mis Ionawr 2025 roedd degau o filoedd o gefnogwyr wedi ymweld â gwefan Croeso Cymru i gael gwybodaeth am yr ardal neu i holi sut ymuno â thaith enwog Dave Coaches. 

Yn nhymor 2 y prequel poblogaidd i'r Game of Thrones, House of the Dragon, gwelwyd sawl lleoliad godidog yn y Gogledd - yng Ngwynedd ac Ynys Môn a draw i Gonwy. Mae gweld yr arfordir, ynysoedd a thirweddau hardd hyn wedi gwneud y Gogledd yn gyrchfan y mae'n rhaid ymweld â hi.

Daw'r llwyddiannau hyn wrth i VisitBritain lansio heddiw [dydd Mawrth 21 Ionawr] ymgyrch 'Starring GREAT Britain', ymgyrch twristiaeth sgrin i ddenu twristiaid o bob cwr o’r byd, gan ddefnyddio ffilmiau a sioeau teledu fel bachyn i'w temtio a'u sbarduno i wario yn y pedair gwlad a rhoi hwb i economïau lleol.

Mae Croeso Cymru a VisitBritain wedi dod ynghyd i gydweithio i lansio'r ymgyrch ryngwladol fawr hon a fydd yn cynnwys lleoliadau epig House of the Dragon fel prif elfen iddi. Bydd yn cael ei hyrwyddo ledled y byd, gan gynnwys yn UDA, yr Almaen, Ffrainc ac Awstralia.

Mae degau o filiynau o bobl o bob cwr o'r byd yn ymweld â'r DU bob blwyddyn i hamddena, a'r amcangyfrif yw iddynt wario £32.5 biliwn y llynedd yn unig.

Mae set-jetio wedi chwarae rhan fawr yn hynny, a chyda sector creadigol Cymru yn mynd o nerth i nerth, mae'r economi ymwelwyr yn adlewyrchu hynny. Ac wrth reswm, mae VisitBritain, Croeso Cymru ac eraill yn awyddus i wneud yn fawr o hynny. 

Mae ymchwil VisitBritain yn datgelu bod mwy na 9 o bob 10 darpar ymwelydd â'r DU yn awyddus i gynnwys lleoliadau teledu a ffilm yn eu taith. Yn ogystal, dywedodd bron 20% o bobl o’r DU ar wyliau bod ganddyn nhw ddiddordeb mewn ymweld â lleoliadau ffilmiau, rhaglenni teledu neu lenyddiaeth yng Nghymru.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i:

Llun: Theo Whiteman/HBO


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.