Mae Canolfan Siber Gydnerth Cymru yn sefydliad a arweinir gan yr Heddlu ac mae’n rhan o rwydwaith o ganolfannau sy’n helpu busnesau i amddiffyn eu hunain yn erbyn seiberdroseddu.
Gan weithio mewn partneriaethâ Llywodraeth Cymru a thimau Seiberdroseddu Heddluoedd Cymru, nod y ganolfan yw codi ymwybyddiaeth o fygythiad seiberdroseddu, yn ogystal â helpu’r gymuned fusnes i amddiffyn ei hun yn erbyn bygythiad seiberdroseddu.
Mae BBaCHau a sefydliadau yn y trydydd sector yn cael cymorth ac adnoddau am ddim, fel:
- Hyfforddiant ymwybyddiaeth o ddiogelwch wedi'i ariannu
- Trafodaeth un i un am seiberwydnwch
- Adnoddau, canllawiau ac offer ymarferol wedi'u cymeradwyo gan yr Heddlu
- Amrywiaeth o wasanaethau technegol wedi'u hariannu'n llawn
- Diweddariadau am fygythiadau rhanbarthol a rhybuddion am sgamiau
- Newyddion am weminarau, sioeau teithiol, a digwyddiadau rhwydweithio i fusnesau
- Cylchlythyr misol
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Services | Cyber Resilience Centre for Wales.
I gael gwybodaeth a chyngor ar Seiberddiogelwch ar gyfer eich busnes, edrychwch ar y canllaw Cyngor a Chymorth Seiberddiogelwch | Busnes Cymru.