
Mae Hwb Menter yr Academi Beirianneg Frenhinol wedi lansio'r Sbardun Twf Shott, rhaglen ddeuddeg mis sy'n datblygu, meithrin a chryfhau galluoedd arwain y rhai sy’n gwneud penderfyniadau ar lefel uchel mewn busnesau bach a chanolig uchel eu twf ym maes peirianneg a thechnoleg i fynd â’u busnes i'r lefel nesaf.
Beth mae'r rhaglen hon yn ei gynnig?
- rhaglen hyfforddi twf 36 awr gyda charfan o 15 o arweinwyr technoleg ddofn
- hyfforddiant arweinyddiaeth 1:1 i ganolbwyntio ar eich datblygiad fel arweinydd
- mentora busnes 1:1 gan eu rhwydwaith o beirianwyr mwyaf blaenllaw y DU mewn diwydiant
- grant o £10,000 i dalu am gyrsiau arweinyddiaeth unrhyw le yn y byd
Ar gyfer pwy mae'r rhaglen?
- Yr unigolyn: Sylfaenwyr a phrif swyddogion mewn busnesau bach a chanolig yn y DU
- Y cwmni: Busnesau Bach a Chanolig Peirianneg a Thechnoleg Ddofn sydd wedi codi £1 miliwn (mewn ecwiti a grantiau), sydd â throsiant o £1 miliwn o leiaf yn y flwyddyn ddiwethaf neu'n bodloni'r maen prawf hwn trwy gyfuniad o'r ddau.
Y dyddiad cau i wneud cais yw 4pm ar 20 Mai 2025.
Am ragor o wybodaeth ac i wneud cais, dewiswch y ddolen ganlynol: Shott Scale Up Accelerator - Programme