Mae pobl ar eu gwyliau yng Nghymru yn mynd i elwa o Fil newydd gyda'r nod o ddatblygu twristiaeth yng Nghymru a chynyddu faint o lety ymwelwyr o ansawdd uchel sydd ar gael.
Bydd angen trwydded ar ddarparwyr llety gwyliau a bydd rhaid iddynt fodloni set o safonau sy'n dangos bod y llety yn addas ar gyfer ymwelwyr. Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn berthnasol i lety hunangynhwysol, hunanarlwyo fel bythynnod gwyliau a fflatiau. Bydd angen i ddarparwyr fodloni safon 'addasrwydd ar gyfer llety ymwelwyr' i gael trwydded, a hynny drwy ddangos bod ganddynt dystysgrifau diogelwch nwy a thrydanol ac yswiriant, ynghyd â larymau mwg a charbon monocsid.
Mae ymchwil yn dangos nad yw bron i ddau o bob tri o bobl sy'n cynllunio teithiau yn y DU yn gwybod nad oes angen trwydded ar berchnogion llety gwyliau ar hyn o bryd. Byddai dros 80% o bobl sy'n cynllunio teithiau yn y DU yn fwy tebygol o drefnu llety gwyliau pe bai cynllun trwyddedu yn bodoli.
Mae'r Bil yn caniatáu i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol ymestyn trwyddedu i fathau eraill o lety.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Safonau newydd ar gyfer llety gwyliau yng Nghymru | Welsh Govenment News ac Trwyddedu llety ymwelwyr yng Nghymru | LLYW.CYMRU.
Hefyd, bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn cynnal gweminarau ym mis Tachwedd i'ch helpu i baratoi ar gyfer Cofrestru Llety Ymwelwyr a’r Ardoll Ymwelwyr.
Llun: Croeso Cymru