
Mae Cyllid a Thollau ei Fawrhydi (CThEF) yn annog miliynau o gwsmeriaid sy’n Hunanasesu i fod yn wyliadwrus o negeseuon twyllodrus neu sgamiau sy’n honni eu bod o’r adran.
Bydd y twyllwyr yn aml yn dynwared CThEF, gan gynnig ad-daliadau ffug neu fynnu taliadau brys, er mwyn dwyn gwybodaeth bersonol neu wybodaeth bancio. Efallai y byddan nhw’n dweud ei bod yn ddiogel i chi rhannu eich manylion personol. Nid yw hyn yn wir. Mae cyfrineiriau, enwau defnyddiwr, a chodau mynediad yn breifat ac ni ddylai cwsmeriaid eu rhannu â neb, hyd yn oed rhywun y maen nhw’n ymddiried ynddyn nhw neu sy'n eu helpu gyda'u treth.
Gall ffeilio'n gynnar hefyd helpu cwsmeriaid i adnabod sgamiau’n haws, gan fod y rhai sydd eisoes wedi cyflwyno eu ffurflen dreth yn llai tebygol o gael eu twyllo gan ymdrechion i’w sgamio yn nes at y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesu ar 31 Ionawr 2026.
Os bydd rhywun yn cael neges sy’n honni ei bod gan CThEF ac sy'n gofyn am fanylion personol neu'n cynnig gostyngiad treth, dylen nhw wirio canllaw sgamiau CThEF i wneud yn siŵr ei bod yn ddilys.
Ni wnaiff CThEF:
- adael negeseuon llais yn bygwth camau cyfreithiol neu arestio
- anfon neges destun neu e-bost sy’n gofyn am wybodaeth bersonol neu wybodaeth ariannol
- cysylltu â chwsmeriaid drwy e-bost, neges destun neu’r ffôn er mwyn eu hysbysu am ad-daliad neu i ofyn iddyn nhw hawlio un
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen hon: Scams warning as Self Assessment customers targeted - GOV.UK