Cynllun a gefnogir gan Lywodraeth y DU yw Rhoi trwy’r Gyflogres sy’n caniatáu i gyflogeion gefnogi eu hoff elusennau yn gyfnewid am ryddhad treth.
Mae Rhoi trwy’r Gyflogres yn ffordd hawdd i fusnesau gefnogi achosion da drwy ganiatáu i’w staff wneud rhoddion cyn treth.
Yr hyn sy’n gwneud y cynllun mor arbennig yw ei fod yn fuddiol i bawb. Mae’n gwneud rhoi yn rhatach i drethdalwyr, gall busnesau ei ddefnyddio i wella eu heffaith gymdeithasol a gall elusennau gael incwm cynaliadwy i gyllido’r gwasanaethau hanfodol y mae cymunedau yn dibynnu arnynt.
Chwefror yw Mis Rhoi trwy'r Gyflogres, cyfle i gyflogwyr yng Nghymru hybu eu heffaith gymdeithasol wrth helpu cyflogeion i sicrhau bod eu rhoddion elusennol yn mynd yn bellach.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: New guide for businesses: Harnessing the social impact of Payroll Giving.