Rhianta corfforaethol yw'r cydgyfrifoldeb sydd gan bartneriaid pan fydd plentyn yn dod i ofal. Mae'n cynnwys awdurdodau lleol, aelodau etholedig, gweithwyr ac asiantaethau partner. Mae gan bob aelod a gweithiwr y cyngor gyfrifoldeb statudol i weithredu ar ran y plentyn hwnnw.
Mae mis Tachwedd yn fis Cenedlaethol Pobl Ifanc sy’n Gadael Gofal. Beth am i’ch sefydliad ymrwymo i fod yn rhiant corfforaethol?
Diben rhianta corfforaethol yw cefnogi plant sy’n derbyn gofal a rhai sy’n gadael gofal; gweithredu er eu lles gorau, fel y byddai rhiant yn ei wneud, drwy roi sefydlogrwydd, cyfleoedd a chefnogaeth iddynt.
Mae’r Siarter rhianta corfforaethol yn amlinellu un ar ddeg o egwyddorion i helpu pobl ifanc i ffynnu.
Rydyn ni’n edrych am sefydliadau cyhoeddus, preifat a thrydydd sector ar draws Cymru i ymrwymo yn wirfoddol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: Rhianta corfforaethol: cyflwyniad | LLYW.CYMRU.