Newyddion

Rheoli trais ac ymddygiad ymosodol sy'n gysylltiedig â gwaith

office worker being shouted at by a manager

Gall trais ac ymddygiad ymosodol yn y gwaith gael effaith ddifrifol ar iechyd corfforol a meddyliol eich gweithwyr.

Bydd canllawiau'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar drais ac ymddygiad ymosodol yn y gwaith yn eich helpu i ddiogelu eich gweithwyr. Mae'n ymdrin â sut i:

  • asesu’r risgiau
  • rhoi’r mesurau rheoli cywir ar waith
  • adrodd am ddigwyddiadau a dysgu oddi wrthynt

Mae ganddynt ganllawiau penodol ar sut i gefnogi eich gweithwyr ar ôl digwyddiad treisgar. Ceir enghreifftiau hefyd o sefyllfaoedd cyffredin lle mae cyflogwyr wedi lleihau'r risg o drais.

Yn ogystal, mae cyngor ar wahân i weithwyr ar drais yn y gweithle. Mae'n esbonio sut y gallant helpu cyflogwyr i atal digwyddiadau treisgar yn y gwaith.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.