Newyddion

Rheolaeth y Gronfa Twf Lleol gwerth £547 miliwn yn dychwelyd i Gymru

People holding Welsh flags

Heddiw (22 Mawrth 2026), mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei chynlluniau ar gyfer y Gronfa Twf Lleol gwerth £547 miliwn, a fydd yn cael ei defnyddio i roi hwb i economi Cymru.

Ar ymweliad â Glyn Ebwy, mi fydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi manylion y Cynllun Buddsoddi, sydd wedi'i gymeradwyo gan Lywodraethau Cymru a'r DU, dros y tair blynedd nesaf, sy'n nodi'r dyraniadau ariannol ar gyfer pob maes blaenoriaeth ac ar gyfer pob un o'r pedwar rhanbarth yng Nghymru.  

Bydd y Gronfa Twf Lleol yn cael ei dyrannu ar draws tair blaenoriaeth - cefnogi busnesau cynhyrchiol a chystadleuol, cynyddu sgiliau a helpu pobl i gael gwaith, ac adeiladu seilwaith.

Mae'r Gronfa wedi'i chynllunio i rymuso rhanbarthau Cymru a thargedu'r ardaloedd sydd â'r angen mwyaf i gynyddu cynhyrchiant, helpu busnesau i dyfu a chreu swyddi sy'n talu'n well.

Yn dilyn y cytundeb cyllid gyda Llywodraeth y DU, bydd arian yn cael ei ddyrannu yn seiliedig ar gynlluniau gwariant wedi'u teilwra a fydd yn nodi'r cyfleoedd a'r anghenion yn y rhanbarthau hynny.

Bydd buddsoddiad yn adlewyrchu cryfderau a chyfleoedd economaidd rhanbarthol, fel gweithgynhyrchu uwch ac ynni glân.    

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: Rheolaeth y Gronfa Twf Lleol gwerth £547m yn dychwelyd i Gymru | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.