
Yn dilyn cyhoeddi canlyniadau Cyfrifiad 2021 ar y Gymraeg, mae Llywodraeth Cymru yn cydweithio â'r Swyddfa Ystadegau Gwladol i archwilio data ar siaradwyr Cymraeg y tu allan i Gymru. Ar hyn o bryd, mae’r data sydd ar gael yn gyfyngedig, ac rydym yn ceisio deall anghenion defnyddwyr yn well yn y maes hwn.
Wrth i'r boblogaeth ddod yn fwyfwy symudol, mae mwy o angen am well dealltwriaeth. Rydym yn eich gwahodd i rannu eich barn ar unrhyw ddata sydd ei angen arnoch, a'i ddefnydd posibl. Bydd eich adborth yn helpu i sicrhau y byddai unrhyw ddata a gesglir yn berthnasol ac yn ddefnyddiol.
Daw'r arolwg i ben ar 5 Mai 2025, gyda chanfyddiadau cychwynnol ar gael erbyn diwedd y flwyddyn.
Cwblhewch yr arolwg drwy ddewis y ddolen ganlynol: Ymgysylltu â defnyddwyr: Data am y Gymraeg y tu allan i Gymru
Gall defnyddio ychydig bach o Gymraeg wneud gwahaniaeth mawr.
Mae gan Lywodraeth Cymru darged i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 trwy Cymraeg 2050. Gall busnesau chwarae eu rhan wrth gyrraedd y targed hwn a hefyd elwa o ddefnyddio'r iaith. Darganfyddwch fwy: Cymraeg yn eich busnes | Busnes Cymru