Newyddion

Rhagor o oedi i'r gwaith ar Bont Menai

Menai Bridge

Mae UK Highways A55 Ltd wedi cadarnhau y bydd y gwaith Cam 2 ar Bont Menai yn cael ei ohirio o leiaf chwe mis.

Roedd y gwaith ar y strwythur 200 mlwydd oed i fod wedi'i gwblhau yng Ngwanwyn 2027, ond mae bellach wedi cael ei ohirio tan hydref 2027 am fod dŵr wedi cael ei ganfod yn dod i mewn ar y gwaith dur islaw'r bont.

Nid oedd archwiliadau cynharach wedi nodi'r cyflwr hwn, ac roedd yn golygu na ellid gosod y system baent arfaethedig yn ddibynadwy.

Er mwyn atal y gwaith rhag oedi pellach, aildrefnodd UK Highways A55 Ltd y gwaith Cam 2 a oedd ar ôl, wrth ddod o hyd i system baent a oedd yn gallu gwrthsefyll lleithedd ac a oedd yn addas ar gyfer strwythurau treftadaeth er mwyn bwrw ymlaen â'r paentio wedi'i gynllunio. 

Bydd y rhaglen ddiwygiedig yn parhau i gydbwyso cyflawni'r ail gam â gweithredu'r  bont mewn modd diogel a lleihau tarfu ar gymunedau lleol, gan gynnwys tynnu rheolaethau traffig o'r bont am weddill 2026. Bydd y terfyn pwysau o 7.5 tunnell yn parhau i fod mewn grym drwy gydol gwaith Cam 2.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen hon: Y Gweinidog Trafnidiaeth yn hynod siomedig ynghylch rhagor o oedi i'r gwaith ar Bont Menai | LLYW.CYMRU a A5 Pont Menai: cwestiynau cyffredin | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.