
Mae Upscale yn ôl ar gyfer 2025 fel rhaglen dri mis eang ei heffaith gan Tech Nation a adeiladwyd ar gyfer sylfaenwyr a thimau arwain uchelgeisiol sy'n mynd drwy’r cyfnod allweddol ar ôl Cyfres A.
P'un ai ydych chi newydd gau cam A ac yn datblygu'n gyflym neu'n paratoi ar gyfer y cam hollbwysig o godi i Gyfres B (yn aml y cam anoddaf), mae Upscale ar eich cyfer chi.
Mae'r rhaglen hon wedi'i hariannu'n llawn ac yn cefnogi’r cwmnïau mwyaf addawol sy’n tyfu yn y DU, gan eich arfogi chi a'ch prif swyddogion i oresgyn heriau craidd twf - o adeiladu timau i sicrhau cyllid.
Drwy sesiynau dan arweiniad arbenigwyr a phroses wedi’i theilwra i baru buddsoddwyr 1:1, byddwch chi'n cael y wybodaeth a'r cysylltiadau cyfalaf sydd eu hangen arnoch i dyfu’ch cwmni’n hyderus. A hynny i gyd wrth ymuno â charfan a gydnabyddir yn genedlaethol a datgloi mynediad gydol oes i rwydwaith pwerus o sylfaenwyr, cyfalafwyr menter a llunwyr polisi.
Mae’r rhaglen Upscale bellach yn derbyn ceisiadau a’r dyddiad cau yw 30 Gorffennaf 2025.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais: Upscale | Tech Nation