Mae rhaglen Trefi Smart Llywodraeth Cymru wedi'i ymestyn tan 2026.
Mae'r rhaglen yn parhau i gefnogi busnesau, cynghorau a chymunedau i ddefnyddio technoleg ddigidol a data i adfywio eu strydoedd mawr, yn unol â'r agenda Trawsnewid Trefi.
Mae hyn yn golygu helpu busnesau i ddefnyddio data i weithio'n ddoethach ac nid yn galetach ac i nodi cyfleoedd ar gyfer twf; defnyddio data i gyfiawnhau a llywio buddsoddiad ac i fesur llwyddiant unrhyw ymyriadau.
Mae'r wefan yn darparu cyfoeth o wybodaeth am Drefi Smart yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd.
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Hafan | Trefi Smart Town.