
Mae’n bleser gan Small Business Britain gyflwyno'r rhaglen Small and Mighty Enterprise i helpu i dyfu busnesau bach gydag arweiniad a mentora arbenigol.
Mae'r rhaglen achrededig DPP chwe wythnos hon, sy’n rhad ac am ddim ac sy’n anelu at roi hwb mawr i unig fasnachwyr a microfusnesau, yn dod i ben gyda chynllun twf i gefnogi'r flwyddyn nesaf o gyfleoedd busnes. Bydd yn cael ei chyflwyno’n gyfan gwbl ar-lein, gan ganiatáu mynediad o unrhyw le yn y DU gyda chyfleoedd dysgu hyblyg i bawb.
Beth mae'r cwrs yn ei gynnwys?
- Sesiynau wythnosol byw wedi'u recordio ac ar gael ar wefan breifat Small Business Britain sydd ar gael i gyfranogwyr y cwrs yn unig.
- Taflenni gwaith wythnosol i wreiddio canlyniadau dysgu sydd ar gael ar y wefan breifat, yn cael eu datblygu gan hyfforddwyr arbenigol bob wythnos.
- Datblygu Cynllun Gweithredu: cynllun deuddeg mis i dyfu a ffynnu gyda chefnogaeth mentoriaid arbenigol.
- Un awr o fentora 1 i 1 a mentora grŵp dros y chwe wythnos gan fentoriaid arbenigol ledled y DU.
- Bod yn rhan o gymuned unigryw, gefnogol i ofyn ac ateb cwestiynau, cael mynediad at arbenigwyr ac athrawon, rhannu profiadau a rhwydweithio gyda busnesau bach eraill.
Dyddiadau'r cwrs isod:
- Modiwl 1: 3 Ebrill, 10am i 12pm
- Modiwl 2: 10 Ebrill, 10am i 12pm
- Modiwl 3: 17 Ebrill, 10am i 12pm
- Modiwl 4: 24 Ebrill, 10am i 12pm
- Modiwl 5: 1 Mai, 10am i 12pm
- Modiwl 6: 8 Mai, 10am i 12pm
Cliciwch ar y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth ac i gofrestru: Small Business Britain | Champion. Inspire. Accelerate.