
Mae rhaglen Sbarduno Lab gan Trafnidiaeth Cymru yn rhaglen 10 wythnos sydd wedi'i chynllunio i fynd â'ch busnes newydd o'r syniad cychwynnol i lansio’r cynnyrch a chyflwyno eich datrysiad ar draws Trafnidiaeth Cymru.
Mae'n rhaglen ar gyfer unrhyw sefydliad, entrepreneur, busnes newydd neu fusnes sydd wrthi’n tyfu ac sydd â chynnyrch neu syniad a all ddarparu ateb i unrhyw un o’r meysydd her canlynol:
- Heriau sy’n Benodol i'r Cyfryngau fel y'u hamlinellwyd gan Media Cymru (Rhaid i ymgeiswyr ar gyfer yr heriau hyn fod wedi'u lleoli yng Nghymru)
- Heriau sy’n Benodol i Drafnidiaeth fel y’u hamlinellwyd gan Trafnidiaeth Cymru (Gall ymgeiswyr fod wedi’u lleoli y tu allan i Gymru)
Bydd cyfranogwyr yn elwa o:
- Fynediad at gyllid o hyd at £30,000 (TrC) a £50,000 (Media Cymru)
- Hyfforddiant ymchwil a datblygu arbenigol i fireinio a datblygu eu syniadau
- Mentora arbenigol a chymorth gan y diwydiant
- Y cyfle i ddefnyddio eu harloesedd gyda Trafnidiaeth Cymru
Ar ddiwedd y 10 wythnos, bydd yr holl fusnesau sy'n cymryd rhan yn y rhaglen yn cyflwyno eich MVP (Cynnyrch Sylfaenol Hyfyw) ar ddiwrnod arddangos, gyda'r nod o sicrhau cyllid gyda Trafnidiaeth Cymru neu Media Cymru. Yna bydd gan ymgeiswyr llwyddiannus y sicrwydd ariannol a'r mynediad at yr adnoddau sydd eu hangen i barhau i ddatblygu eich cynnyrch neu wasanaeth i'w integreiddio ar draws Trafnidiaeth Cymru.
Cyflwynwch eich cais erbyn 12pm ar 2 Ebrill 2025.
Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Lab by Transport For Wales Accelerator Application | Simply Do
Gall arloesi helpu'ch busnes i ddod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiannau a mynd i mewn i farchnadoedd newydd.
Mae ein cynnwys arloesi busnes wedi'i gynllunio fel y gallwch ddarganfod pa gefnogaeth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru