Newyddion

Rhaglen Sbarduno Entrepreneuriaid

Os ydych chi’n fusnes twf uchel sy’n gobeithio ehangu, gallai rhaglen sbarduno NatWest eich helpu. Efallai eich bod am adeiladu eich tîm, mentro i farchnadoedd newydd neu chwilio am fuddsoddiad pellach.

Gallai’r rhaglen eich helpu i gael yr wybodaeth a’r sgiliau i ragori mewn meysydd busnes amrywiol, gan gynnwys:

  • Mynediad at farchnadoedd newydd
  • Denu doniau ac adeiladu tîm effeithiol
  • Mynediad at gyllid twf
  • Datblygu arweinyddiaeth
  • Datblygu seilwaith y gellid ei ehangu

Mae’r rhaglenni sbarduno presennol ar agor i bob perchennog busnes. Nid oes yn rhaid i chi fod yn gwsmer NatWest.

Am ragor o wybodaeth, ewch i 
https://www.natwest.com/business/business-services/entrepreneur-accelerator.html 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.