
Ydych chi'n fusnes newydd cynaliadwy sy'n ceisio cynyddu eich effaith gymaint â phosibl?
Mae Rhaglen Sbarduno Cynaliadwyedd Amazon yn rhaglen heb ecwiti sy'n cefnogi busnesau newydd sy'n sbarduno arloesedd cynaliadwy, a'i nod yw helpu entrepreneuriaid i dyfu eu sgiliau a chynyddu eu busnesau er mwyn iddynt allu cael yr effaith fwyaf posibl ar yr hinsawdd mewn meysydd fel economi gylchol, technoleg ailgylchu a chynhyrchion defnyddwyr mwy cynaliadwy.
Manteision y rhaglen yw:
- Grantiau ariannol
- Mentoriaeth arbenigol
- Cwricwlwm wedi'i deilwra
- Hyblygrwydd
- Asesiad o'r Effaith ar yr Hinsawdd
- Digwyddiadau a'r gymuned
Dyddiadau Cau ar gyfer Ceisiadau:
- Cynnyrch Defnyddwyr: 7 Mawrth 2025
- Technoleg Hinsawdd: 25 Gorffennaf 2025
I gael rhagor o wybodaeth, dewiswch y ddolen ganlynol: Amazon Sustainability Accelerator: Maximise your Impact