
Mae'r Rhaglen Twf Hinsawdd wedi'i chynllunio i roi hwb i’r cwmnïau newydd gorau ym maes yr hinsawdd fel eu bod yn cael effaith hyd yn oed yn ehangach.
Bydd y rhaglen, sy'n cael ei chynnal dros gyfnod o 4 mis, yn sbarduno’r prif gwmnïau hinsawdd, gan roi'r offer sydd eu hangen ar y sylfaenwyr i ddyrchafu eu busnesau.
Mae'r pwyslais eleni ar feithrin cysylltiadau dyfnach, mentoriaeth, a chreu perthynas bersonol â buddsoddwyr, corfforaethau amlwladol, academyddion a llunwyr polisi.
Sefydlwyd y rhaglen yn 2020 fel rhan o strategaeth Sero Net Llywodraeth y DU erbyn 2050, ac mae wedi adeiladu rhwydwaith anhygoel o 140 a mwy o gwmnïau technoleg hinsawdd blaenllaw.
Eleni, mae'r rhaglen yn chwilio am fusnesau newydd a all gael effaith fawr ym maes technoleg hinsawdd, ledled y cam Cychwynnol a dechrau cam Cyfres A, gydag arwyddion o blwyfo yn y farchnad a Chynnyrch Hyfyw Lleiaf, fan lleiaf.
Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 23:59 ar 31 Ionawr 2025: The Climate Programme 2025 - Tech Nation
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. Drwy lofnodi’r Addewid Twf Gwyrdd, byddwch yn cael mynediad at becyn offer marchnata wedi’i ddylunio’n benodol i gynnig gwybodaeth ymarferol, canllawiau a logos i helpu eich busnes i hyrwyddo’r camau rydych wedi’u cymryd i ddatgarboneiddio a dod yn fwy cynaliadwy: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru