
Mae Busnesau Bach Prydain yn cyflwyno rhaglen Deallusrwydd Artiffisial i Fusnesau Bach, gyda chefnogaeth BT Group. Mae'r cwrs chwe wythnos rhad ac am ddim hwn yn rhoi'r offer i chi symleiddio cyfathrebu, awtomeiddio tasgau, a rhoi hwb i’ch marchnata, i’ch helpu i adeiladu sylfaen gref ar gyfer twf yn y dyfodol.
Bydd sesiynau wythnosol byw, dan arweiniad arbenigwyr y diwydiant, yn cael eu recordio ac ar gael i gyfranogwyr y cwrs yn unig ar wefan breifat Busnesau Bach Prydain. Byddwch hefyd yn cael mynediad i gymuned gefnogol o aelodau a fydd yn rhoi cyfle i chi rannu profiadau a rhwydweithio gyda chyd-gyfranogwyr. Bydd arbenigwyr Deallusrwydd Artiffisial ar gael hefyd ar ôl bob sesiwn i ateb unrhyw gwestiynau sydd gyda chi.
Dyddiadau'r cwrs:
- Modiwl 1 – 15 Medi 10am
- Modiwl 2 – 22 Medi 10am
- Modiwl 3 – 29 Medi 10am
- Modiwl 4 – 6 Hydref 10am
- Modiwl 5 – 13 Hydref 10am
- Modiwl 6 – 20 Hydref 10am
Cliciwch ar y ddolen ganlynol am fwy o wybodaeth ac i gofrestru: AI For Small Business - Sign Up Now!