Newyddion

Rhaglen Datblygu Gallu Cyflenwyr Amddiffyn

satellite defence

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) wedi ymrwymo i gefnogi datblygiad sector amddiffyn mwy cynhyrchiol a chystadleuol yn y DU. O ganlyniad, mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi lansio'r Rhaglen Datblygu Gallu Cyflenwyr Amddiffyn (DSCDP) i roi cefnogaeth gwella busnes i fusnesau bach a chanolig a chyflenwyr haen ganol yng nghadwyn gyflenwi'r sector amddiffyn.

Bydd y rhaglen yn cynnig hyd at £200,000 o gefnogaeth dros gyfnod o flwyddyn i gyflenwyr yn y DU sy'n tyfu yn y sector, a’r gefnogaeth honno wedi'i theilwra i'w gofynion datblygiadol penodol. Bydd y gefnogaeth hon yn cael ei hariannu gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, ac mae’n ofynnol i gwmnïau ddangos ymrwymiad cyfatebol o ran adnoddau drwy gyfrwng yr amser maen nhw'n ei dreulio ar weithgareddau gwella.

Bydd y gefnogaeth yn seiliedig ar asesiad diagnostig cychwynnol a gynhelir i werthuso galluoedd ac anghenion pob sefydliad, gan sicrhau bod pob busnes yn cael y cymorth priodol i fynd i'r afael â'u gofynion unigryw. Bydd hyn yn arwain at becyn o gefnogaeth wedi'i theilwra a ddarperir gan amrywiaeth o arbenigwyr ym mhob maes hanfodol y mae angen i gyfranogwyr ei ddatblygu.

Nod y rhaglen yw:

  • Cefnogi datblygiad sector amddiffyn mwy cynhyrchiol a chystadleuol yn y DU drwy ddarparu cefnogaeth o ran gwella i gyflenwyr amddiffyn yn y DU.
  • Gwella cynhyrchiant a natur gystadleuol cadwyni cyflenwi amddiffyn y DU.
  • Cynyddu gwydnwch domestig a gwella gallu cwmnïau i ennill cyfleoedd allforio.

Mae'r Rhaglen Datblygu Gallu Cyflenwyr Amddiffyn yn cael ei rheoli gan Grant Thornton UK LLP ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn.

I elwa yn sgil y cyfle i gael cefnogaeth, cofrestrwch eich diddordeb drwy lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb: grantthornton.co.uk/MOD


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.