Newyddion

Rhaglen Datblygu Cadwyn Gyflenwi CSconnected

semiconductors

Mae CSconnected yn cyflwyno rhaglen fuddsoddi gwerth £1 miliwn gyda Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR) i sbarduno ehangu'r gadwyn gyflenwi lled-ddargludyddion yn Ne Cymru, i hybu creu swyddi a thwf Gwerth Ychwanegol Gros (GVA) yng Nghymru a'r DU.

Mae'r alwad hon yn berthnasol i brynwyr a chyflenwyr yn y DU sy’n gysylltiedig â'r sector Lled-ddargludyddion Cyfansawdd (CS) yn Ne Cymru, gan gynnwys:

  • gwasanaethau gweithgynhyrchu uwch
  • cynhyrchion/gwasanaethau peirianneg fecanyddol ac electronig uwch
  • cyflenwyr nwyon diwydiannol/cemegol
  • cyflenwyr deunydd crai ac offer
  • offer a meddalwedd dylunio lled-ddargludyddion cyfansawdd arbenigol
  • cwmnïau lled-ddargludyddion cyfansawdd nad ydynt yn gwneud y gwaith cynhyrchu eu hunain (fabless)
  • integreiddwyr system marchnad derfynol megis yn y sectorau modurol, cyfathrebu, awyrofod, meddygol

Mae arnynt eisiau ymgynghori â darpar ymgeiswyr cyn i'r alwad gael ei lansio ar 6 Mawrth 2025.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: CSconnected Supply Chain Development Programme | CSconnected


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.