Bydd rhaglen Cyswllt Ffermio newydd gwerth £11miliwn ar gael i ffermwyr yng Nghymru i'w cefnogi wrth iddynt baratoi i symud i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd.
Cyhoeddwyd y rhaglen gan y Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies yn ystod ymweliad â Fferm Ystâd Penllyn.
Bydd y Rhaglen yn rhan annatod o'r SFS a bydd yn rhoi cefnogaeth i roi y Cynllun ar waith. Y prif nodau fydd helpu busnesau fferm i fagu gwytnwch ac i gynhyrchu mwy trwy weithio ar feysydd fel gwella iechyd pridd, iechyd a lles anifeiliaid, rheoli plâu, meincnodi a meithrin sgiliau a gwybodaeth ychwanegol ar amrywiaeth o bynciau.
Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Rhaglen Cyswllt Ffermio gwerth £11m i helpu ffermwyr o Gymru i baratoi ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy | LLYW.CYMRU
Trwy ystod o wasanaethau, gall Cyswllt Ffermio gynnig cymorth - gan gynnwys cyngor un-i-un, cymorth busnes, hyfforddiant sgiliau a digwyddiadau rhwydweithio i'ch cynorthwyo i baratoi eich busnes ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Am ragor o fanylion, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Sustainable Farming Scheme | Farming Connect