Mae chwe entrepreneur o bob cwr o Gymru wedi eu cydnabod am gynnydd rhagorol ar ddiwedd rhaglen ddiweddaraf Cyflymu Dechrau Busnes, Busnes Cymru, sef rhaglen deg wythnos sy'n helpu sylfaenwyr uchel eu potensial i symud o'r cysyniad i'r cwsmer cyntaf.
Daeth Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, Busnes Cymru, a ddarparwyd yn rhan o'r Rhaglen Cyflymu Twf (RCT) ac a ariannwyd gan Lywodraeth Cymru, â 14 o sylfaenwyr cyfnod cynnar ynghyd ar gyfer ei charfan ddiweddaraf. Lansiwyd y rhaglen ar 12 Mai, ac aeth y cyfranogwyr ymlaen o syniadau cychwynnol i fusnesau profedig, a oedd wedi cael prawf yn y farchnad, dan arweiniad hyfforddwyr profiadol ac arbenigwyr sector.
Mae'r rhaglen yn rhan o genhadaeth ehangach RCT i helpu busnesau mwyaf uchelgeisiol Cymru i dyfu'n gynt a chystadlu'n fyd-eang. Cyflwynwyd gwobrau i chwe sylfaenydd y dangosodd eu busnesau'r momentwm mwyaf mewn seremoni a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2026.
Cydnabu’r chwe chategori wahanol ddimensiynau o ragoriaeth entrepreneuraidd:
Gwobr Pencampwr y Rhaglen Gyflymu - Nick Pocock, Green Orbit
Mae Green Orbit wedi datblygu SmartFitIQ, sef platfform wedi ei bweru gan AI sy'n helpu sefydliadau sy'n rhoi gwisgoedd, dillad gwaith a chyfarpar diogelu personol, i fesur archebion yn fwy cywir, gan leihau dychweliadau a gwastraff.
Gwobr Hyblygrwydd Cynnig - Simon Morgan, Willuma
Mae Willuma yn blatfform ysgrifennu ewyllysiau ar-lein sy'n tywys oedolion yng Nghymru a Lloegr drwy'r broses o lunio ewyllys gyfreithiol ddilys drwy sgwrs syml, gam wrth gam.
Gwobr Cyflymu Gwerthiant - Hadiza Abubakar, GrantMatchr
Mae GrantMatchr yn helpu busnesau bach a sefydliadau i nodi grantiau y maen nhw’n gymwys ar eu cyfer cyn iddynt wneud cais, gan arbed amser a dreulir yn mynd ar drywydd cyllid nad yw'n addas.
Gwobr Gwerthiant Cyflymaf - Mohammed Khan, GHOSTLINE
Mae Ghostline yn darparu seiber amddiffyniad wedi'i reoli'n llawn ar gyfer masnachwyr unigol a busnesau bach, gan ddod â’r gwaith parhaus o fonitro, canfod ac ymateb i fygythiadau ynghyd mewn un gwasanaeth.
Gwobr Gyflymu - Mackenzie FitzJohn, Quantech Servicing Ltd
Mae Quantech yn darparu gwasanaeth cynnal a chadw ac ôl-ofal ar sail tanysgrifiad ar gyfer systemau pwmpio gwres, gyda'r uchelgais i ddod yn frand gwasanaethu cenedlaethol ar gyfer y nifer gynyddol o berchnogion tai yn y DU sydd wedi newid i bympiau gwres.
Gwobr y Cyfranogwr Mwyaf Cydweithredol - Michelle Britton, Writing Trees
Mae Writing Trees yn datblygu offer a methodolegau dadansoddol sy'n helpu unigolion, sefydliadau ac ymchwilwyr i ddeall pa mor effeithiol y mae eu gwaith ysgrifenedig yn cyfathrebu, gan nodi patrymau, cryfderau a meysydd i'w gwella wrth gynnal llais gwreiddiol yr awdur.
Meddai Adam Price, Gweinidog y Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni:
“Rydyn ni’n benderfynol o ryddhau potensial economaidd Cymru a chefnogi cwmnïau i ehangu drwy gryfhau’r sylfeini sy’n galluogi twf.
“Mae’n wych gweld Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, Busnes Cymru, yn helpu entrepreneuriaid a busnesau uchelgeisiol i gyflawni llwyddiant cynaliadwy mor gyflym.”
Ymhlith cyfranogwyr nodedig y rhaglen mae Graze Guard, chwistrell cyn-chwarae sy'n amddiffyn athletwyr rhag llosgiadau a chrafiadau tyweirch ar gaeau artiffisial. Rhoddir Graze Guard ar y croen cyn chwarae, ac mae’n lleihau ffrithiant ac yn helpu i atal crafiadau a achosir gan arwynebau artiffisial. Sefydlwyd y cwmni gan y cyn-chwaraewr a’r hyfforddwr rygbi cynghrair proffesiynol Latham Tawhai. Enillodd yntau Wobr Pencampwr y Rhaglen Gyflymu yng ngharfan Ionawr 2025. Ers hynny, mae Graze Guard wedi lansio'n fasnachol a bellach mae’n gweithio gyda chlybiau, cyfleusterau chwaraeon a sefydliadau chwaraeon ar draws meysydd rygbi, pêl-droed a hoci.
Meddai Latham Tawhai, Sylfaenydd Graze Guard:
"Rwy'n gryf o’r farn nad rhywbeth i’w goddef yn rhan o’r gêm yw llosgiadau tyweirch. Pan ymunais â'r rhaglen gyflymu, roedd gen i gynnyrch roeddwn i’n credu ynddo ond dim llwybr clir ymlaen. Gwthiodd y rhaglen fi i brofi fy rhagdybiaethau, ymgysylltu â phrynwyr go iawn ac adeiladu ar sylfeini masnachol cadarn. Dyna roddodd y llwyfan inni symud ymlaen. Mae Graze Guard ar gael i'w brynu nawr, ac rydyn ni mewn trafodaethau gyda chlybiau a sefydliadau chwaraeon mawr. Dwi ddim yn meddwl y byddem ni wedi symud mor gyflym â hyn heb y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes."
Meddai Mackenzie FitzJohn, a dderbyniodd wobr y Rhaglen Gyflymu:
“Doeddwn i ddim yn disgwyl i ddeg wythnos newid sut rydw i'n meddwl am fy musnes i, ond dyna ddigwyddodd. Heriodd y Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes fy rhagdybiaethau. Fe’m gwthiodd i siarad â chwsmeriaid nad oeddwn i wedi'u hystyried a'm gorfodi i ailystyried rhannau o fy model roeddwn i’n meddwl eu bod nhw wedi'u setlo. Roedd hi’n anodd ar adegau, ond yr union beth roedd ei angen arna i. Rwy'n gadael gyda chynnig busnes rwy'n falch ohono ac ymdeimlad go iawn o fomentwm."
Bellach mae ceisiadau wedi agor ar gyfer carfan nesaf Rhaglen Cyflymu Dechrau Busnes, Busnes Cymru, fydd yn rhedeg rhwng 29 Medi a 10 Rhagfyr 2026 . Y dyddiad terfynol i wneud cais yw dydd Llun 24 Awst 2026 .
Mae'r rhaglen yn agored i sylfaenwyr sydd wedi'u lleoli yng Nghymru ac sydd â syniadau busnes cyn-refeniw sy'n gallu cyflawni £1 miliwn mewn trosiant blynyddol, creu o leiaf 10 swydd amser llawn, a mynd i mewn i farchnadoedd allforio erbyn 2029. Gall RCT ddarparu cymorth ymarferol a chyllid i ddileu rhwystrau a allai, fel arall, gyfyngu ar y niferoedd sy’n cymryd rhan.
Gwneud cais yn Saesneg.
Gwneud cais yn y Gymraeg.