Newyddion

Rhaglen Creo 2025

Entrepreneurs looking at a laptop

Bwriad Creo, a ffurfiwyd mewn partneriaeth â Motability Operations, yw rhoi hwb i Sefydlwyr anabl a niwroamrywiol ac entrepreneuriaid sy'n arloesi ym maes anabledd a dod â nhw i gysylltiad â’i gilydd, yn ogystal â rhoi'r wybodaeth, y cysylltiadau a'r offer sydd eu hangen arnynt er mwyn ehangu eu busnesau newydd.

Rhaglen ar gyfer busnesau newydd ym maes technoleg cyn y cam cyllid cychwynnol hyd at rai sydd cyn y cam cyllid cyfres A, ac sydd wedi'u lleoli yn y DU, yw rhaglen Creo. Rhaid i o leiaf un o sefydlwyr y busnes hunanuniaethu fel unigolyn anabl neu niwroamrywiol, neu mae'n rhaid i'r cwmni fod yn arloesi ym maes anabledd neu niwroamrywiaeth.

Mae'n cynnwys gweithdai a chynnwys sy’n cael eu harwain gan arbenigwyr yn y diwydiant, cefnogaeth gan gymheiriaid, a sesiynau hyfforddi. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 25 Gorffennaf 2025

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Creo | Tech Nation ac The Creo Programme 2025 - Tech Nation

Darllenwch y Canllaw Arferion Da i gael gwybod sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi Entrepreneuriaid Anabl yng Nghymru. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.