Bydd Rhaglen Balchder Bro llywodraeth y DU yn arwain at roi hyd at £5 biliwn i bron i 250 o ardaloedd ledled y DU.
Bydd pob ardal yn derbyn hyd at £20 miliwn o gyllid a chefnogaeth dros y 10 mlynedd nesaf i wneud gwelliannau hirdymor y mae trigolion eu heisiau.
Gyda Balchder Bro, bydd trigolion, busnesau a grwpiau cymunedol yn darparu gwelliannau gwirioneddol sy'n bwysig i bobl leol.
Bydd cymunedau’n gallu gwario'r cyllid ar yr hyn sydd bwysicaf iddyn nhw - o welliannau i balmentydd ac i’r stryd fawr i fuddsoddi mewn diwylliant a mannau gwyrdd.
Bydd pob un o'r bron i 250 o ardaloedd sy'n derbyn yr arian hwn yn ffurfio 'Bwrdd Cymdogaeth'. Bydd y byrddau hyn yn rhoi pobl leol wrth wraidd y gwaith o ddiffinio dyfodol eu hardal, gan ddod â thrigolion, busnesau lleol, ymgyrchwyr ar lawr gwlad, cynrychiolwyr y gweithle, arweinwyr ffydd, a sefydliadau cymunedol ynghyd.
Darganfyddwch a fydd eich cymuned chi’n derbyn cyllid fel rhan o Balchder Bro:
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: What is Pride in Place? - GOV.UK.