Newyddion

Rhaglen Arbenigol Lloyds Bank 

Group of charity workers

Mae Rhaglen Arbenigol Lloyds Bank ar gyfer elusennau arbenigol, lleol, bach sy’n cynorthwyo pobl sy’n wynebu problemau cymhleth.

Bydd y rhaglen yn cynorthwyo elusennau i gryfhau eu capasiti a’u galluoedd ac i ddod yn fwy gwydn trwy amrywiaeth o gynigion cymorth datblygu wedi’u teilwra, ochr yn ochr â grant anghyfyngedig tair blynedd gwerth £75,000, sydd ar gael i elusennau sy’n cefnogi: 

  • Dibyniaeth 
  • Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid 
  • Ymadawyr Gofal
  • Dioddefwyr Cam-drin Domestig 
  • Digartrefedd
  • Troseddwyr 
  • Dioddefwyr Cam-drin a Chamfanteisio Rhywiol 
  • Dioddefwyr Masnachu Pobl a Chaethwasiaeth Fodern 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ar 25 Ionawr 2024.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Apply for funding under our Specialist Programme (lloydsbankfoundation.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.