Mae Regional Talent Engines yn rhaglen cyn-sbarduno chwe mis o hyd ar gyfer sylfaenwyr cyfnod cynnar yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Gogledd Lloegr i drawsnewid syniadau gwych yn fusnesau newydd ym maes peirianneg.
Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i roi'r cymorth ymarferol sydd ei angen arnoch i helpu i fireinio'ch arloesedd a dod â'ch gweledigaeth yn fyw.
Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn barod i geisio cymorth pellach ar gyfer eich busnes neu gynnig newydd am eich buddsoddiad cyntaf i ddod â'ch arloesedd i'r farchnad.
Mae lle ar y rhaglen yn cynnwys:
- grant heb ecwiti o £20,000 tuag at gostau byw
- gweithdai hyfforddi, cyfarfodydd bord gron a digwyddiadau siaradwyr yn Abertawe, Belfast, Leeds, Lerpwl a Newcastle
- hyfforddiant a mentora busnes un i un
- mynediad am ddim am oes i fannau cydweithio ledled y DU
Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen yn cau ar 14 Ebrill 2026.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Regional Talent Engines - Pre-Accelerator Programme.
Gall arloesi helpu'ch sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, i gynyddu gwerthiant, ac i fanteisio ar farchnadoedd newydd. Yma, gallwch weld pa gymorth a chyllid sydd ar gael i'ch helpu chi i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru.