Newyddion

Regional Talent Engines 2025

Lightbulb depicting innovation

Mae Regional Talent Engines yn rhaglen cyn-sbarduno chwe mis o hyd ar gyfer sylfaenwyr cyfnod cynnar yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a Gogledd Lloegr i drawsnewid syniadau gwych yn fusnesau newydd ym maes peirianneg.

Mae'r rhaglen wedi'i chynllunio i roi'r cymorth ymarferol sydd ei angen arnoch i helpu i fireinio'ch arloesedd a dod â'ch gweledigaeth yn fyw.

Erbyn diwedd y rhaglen, byddwch yn barod i geisio cymorth pellach ar gyfer eich busnes neu gynnig newydd am eich buddsoddiad cyntaf i ddod â'ch arloesedd i'r farchnad.

Mae lle ar y rhaglen yn cynnwys:

  • grant heb ecwiti o £20,000 tuag at gostau byw
  • gweithdai hyfforddi, cyfarfodydd bord gron a digwyddiadau siaradwyr yn Abertawe, Belfast, Leeds, Lerpwl a Newcastle
  • hyfforddiant a mentora busnes un i un
  • mynediad am ddim am oes i fannau cydweithio ledled y DU

Ar gyfer pwy mae'r rhaglen?

Darpar entrepreneuriaid sydd: 

  • yn beirianwyr profiadol neu'n weithwyr proffesiynol technoleg medrus
  • eisiau sefydlu eu busnes eu hunain yng Nghymru, Gogledd Iwerddon neu Ogledd Lloegr. 

Ac yn cefnogi:

  • datblygiadau newydd o unrhyw faes peirianneg
  • syniadau gwreiddiol ar gyfer busnesau a allai ehangu’n gyflym 

Mae ceisiadau ar gyfer y rhaglen yn cau am 4pm ar 6 Mai 2025.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Regional Talent Engines - Pre-Accelerator Programme


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.