Cynhelir Pythefnos Bwyd Prydain 2026 rhwng 26 Medi a 11 Hydref 2026.
Dyma'r pumed flwyddyn ar hugain o'r dathliad cenedlaethol o'r bwyd amrywiol a blasus y mae Prydain yn ei gynhyrchu.
Bydd Pythefnos Bwyd Prydain 2026 yn fwy nag erioed gyda mwy o ddathliadau yn cael eu cynnal mewn cymunedau a sefydliadau ledled y DU.
Am nifer o syniadau ar sut y gall eich busnes ddathlu, gweler ar wefan Pythefnos Bwyd Prydain. Mae cyngor ar gyfer tafarndai, bwytai, gwestai, caffis ac atyniadau ymwelwyr, manwerthwyr, defnyddwyr, athrawon, rheolwyr arlwyo, arweinwyr cyngor, darparwyr cartrefi gofal.
Mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am hyrwyddo Bwyd a Diod o Gymru yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Bwyd a Diod Cymru - Tyfu gyda'n gilydd | Busnes Cymru - Bwyd a diod.