
Cynhelir Pythefnos Bwyd Prydain 2025 rhwng 26 Medi a 12 Hydref 2025.
Dyma'r bedwaredd flwyddyn ar hugain o'r dathliad cenedlaethol o'r bwyd amrywiol a blasus y mae Prydain yn ei gynhyrchu.
Bydd Pythefnos Bwyd Prydain 2025 yn fwy nag erioed gyda mwy o ddathliadau yn cael eu cynnal mewn cymunedau a sefydliadau ledled y DU.
Gweler y cyngor ar wefan Pythefnos Bwyd Prydain am nifer o syniadau ar sut y gall eich busnes ddathlu. Mae cyngor ar gyfer tafarndai, bwytai, gwestai, caffis ac atyniadau ymwelwyr, manwerthwyr, defnyddwyr, athrawon, rheolwyr arlwyo, arweinwyr cyngor, darparwyr cartrefi gofal.
Mae Is-adran Fwyd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am hyrwyddo Bwyd a Diod o Gymru yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Bwyd a Diod Cymru - Tyfu gyda'n gilydd | Busnes Cymru - Bwyd a diod