Mae'r Sefydliad Rheoli Morol yn cynghori diwydiant bwyd môr y DU i edrych ar frys ar ddiffiniad estynedig yr UE o brosesu er mwyn sicrhau nad yw busnesau'n cael eu dal allan o 10 Ionawr 2026.
Mae disgwyl i lawer mwy o fusnesau yn y DU orfod cwblhau datganiadau prosesu o ganlyniad i newidiadau i reolaethau mewnforio sy'n cael eu cyflwyno gan yr UE yn y Flwyddyn Newydd.
Mae'r newidiadau i ofynion y datganiad prosesu yn rhan o newidiadau ehangach i reoliadau pysgota Anghyfreithlon ac Anrheoleiddiedig nas Hysbysir amdano (IUU) yr UE. Fel rhan o'r diweddariadau hyn, bydd newidiadau i ddogfennau storio, i'w henwi'n ddogfennau dim addasu, a thystysgrifau dalfeydd.
Heb ddogfennaeth gywir, efallai y bydd allforion bwyd môr o'r DU yn cael eu gohirio neu eu hatal yn gyfan gwbl, felly mae angen i fusnesau wirio nawr a fydd eu gweithrediadau’n dod o dan y diffiniad prosesu newydd.
Mae ymgyrch Pysgota, Olrhain, Allforio’r Sefydliad Rheoli Morol yn annog pob sector o'r diwydiant bwyd môr i edrych ar ei ganllawiau Cwestiynau Cyffredin i asesu a fydd y newidiadau i ddatganiadau prosesu yn berthnasol iddyn nhw.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Fish, trace, ship – don’t be caught out - GOV.UK.