Newyddion

Pŵer Partneriaeth: Sioe Deithiol Ceisiadau ar y Cyd ar gyfer Cyflenwyr Cymreig

business deal

Allai eich busnes chi fod yn ennill contractau â gwerth uwch drwy weithio ag eraill? Ymunwch â’n Sioe Deithiol, sydd wedi’i hariannu’n llawn, yn eich ardal chi i ganfod sut y gall gweithio mewn partneriaeth agor drysau i gyfleoedd a allai fod allan o gyrraedd ymgeiswyr unigol.

Mae Busnes Cymru yn rhedeg cyfres o ddigwyddiadau ledled Cymru, y gallwch eu mynychu’n bersonol, i helpu cyflenwyr lleol i gysylltu, ffurfio partneriaethau, ac archwilio sut y gallai cydweithredu mewn modd strwythuredig arwain at gontractau mwy a thwf busnesau. Mae’r sesiynau hyn wedi’u dylunio i roi arweiniad ymarferol i chi, ynghyd â mewnwelediadau go iawn, a chyfle i gwrdd â chyflenwyr a busnesau eraill yn eich ardal.

Beth wnewch chi ei ennill:

  • Gwybodaeth Ymarferol: Dysgwch gamau hanfodol ar gyfer gwneud ceisiadau ar y cyd yn llwyddiannus.
  • Profiad Go Iawn: Cewch glywed astudiaethau achos o brosiectau blaenorol.
  • Mewnwelediadau i’r Farchnad: Cewch ganfod cyfleoedd cyfredol a rhai sydd ar y gweill.
  • Rhwydweithio sy’n Gweithio: Cewch gyfarfod cyflenwyr lleol ac archwilio cryfderau cyflenwol.


Pam Mae Ceisiadau ar y Cyd yn Gweithio: Ymunwch â’ch gilydd i gael mynediad i gontractau mwy, i gyfuno sgiliau ac adnoddau, i rannu risgiau, ac archwilio marchnadoedd newydd. Mae cydweithredu’n cryfhau cynigion ac yn meithrin cadwyn gyflenwi fwy gwydn ar hyd a lled Cymru.

Dyddiadau a lleoliadau:

  • Village Hotel, Abertawe – 7 Hydref 2025, 3pm i 6pm
  • Clwb Golff Caerfyrddin, Caerfyrddin – 8 Hydref 2025, 3pm i 6pm
  • Hafan Yr Afon, Y Drenewydd – 21 Hydref 2025, 3pm i 6pm
  • Hotel Wrexham, Wrecsam – 12 Tachwedd 2025, 10am i 1pm
  • Venue Cymru, Llandudno – 13 Tachwedd 2025, 10am i 1pm
  • Prifysgol Caerdydd, Caerdydd – 26 Tachwedd 2025, 4pm i 7 pm
  • Prifysgol Caerdydd, Caerdydd – 2 Rhagfyr 2025, 4pm i 7pm

Mae lleoedd yn gyfyngedig. Peidiwch â methu’r hyfforddiant a’r cymorth hwn sydd wedi’i ariannu’n llawn ynghylch ceisiadau ar y cyd – cysylltwch, cydweithredwch, ac archwiliwch gyfleoedd mwy.

Sicrhewch eich lle heddiw: Business Wales Events Finder - Pŵer Partneriaeth: Sioe Deithiol Ceisiadau ar y Cyd ar gyfer Cyflenwyr Cymreig 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.