Bydd aelwydydd Cymru sy'n ceisio torri eu biliau ynni a lleihau eu hôl troed carbon yn elwa o fwy na £5 miliwn o gyllid newydd ar gyfer cynllun Cartrefi Gwyrdd Cymru yn 2026-27.
Menter gan Llywodraeth Cymru yw Cartrefi Gwyrdd Cymru, sy'n cael ei rheoli gan Fanc Datblygu Cymru, sydd wedi'i chynllunio i gefnogi perchnogion tai cymwys i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni a gwres carbon isel i'w cartrefi. Ers ei lansio ym mis Hydref 2024, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi bron i £12 miliwn yn y cynllun
Mae'r cynllun yn cynnig benthyciadau di-log sy'n amrywio o £1,000 i £25,000, gyda thelerau ad-dalu o hyd at 10 mlynedd, yn ogystal â chyngor arbenigol wedi'i ariannu'n llawn, gan roi'r gefnogaeth a'r hyblygrwydd sydd eu hangen ar aelwydydd i wneud gwelliannau ystyrlon heb gostau mawr ymlaen llaw.
Am ragor o wybodaeth ac i wirio a ydych yn gymwys, ewch i: Cartrefi Gwyrdd Cymru – Banc Datblygu.
Beth am gofrestru ar gyfer 'Yr Addewid Twf Gwyrdd' a helpu eich busnes i gymryd camau rhagweithiol tuag at eich gwneud yn fwy cynaliadwy.