Newyddion

£2.2 miliwn i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i hybu cynhyrchiant a gwerthiant

female engineers

Bydd gan weithgynhyrchwyr bach a chanolig ledled Cymru nawr fynediad at gyllid i foderneiddio eu busnesau a hybu gwerthiant drwy fuddsoddiad newydd gwerth £2.2 miliwn.

Mae Rhaglen Gwella Cynhyrchiant Busnes y Cymoedd Technoleg yn helpu cwmnïau peirianneg a gweithgynhyrchu i weithio'n effeithlon a datblygu cynhyrchion newydd trwy dechnoleg arloesol.

Dros dair blynedd, bydd cwmnïau cymwys yn derbyn diagnosteg busnes am ddim. Gall y rhai sy'n gymwys wedyn wneud cais am grant cyfalaf rhwng £10,000 a £50,000.

Mae derbynwyr cyllid hefyd yn derbyn pecyn cymorth wedi'i deilwra sy'n cwmpasu datblygu sgiliau a chyngor allforio.

Mae gan y rhaglen hanes cryf o wella cynhyrchiant busnesau bach a chanolig yng Nghymru.

Rhwng 2020 a 2023, nododd 83% o dderbynwyr gynnydd mewn cynhyrchiant. Gyda'i gilydd, cynhyrchodd busnesau £1.6 miliwn ychwanegol mewn gwerthiannau wrth godi cyflogau, uwchsgilio eu gweithlu a diogelu swyddi.

Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: £2.2 miliwn i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i hybu cynhyrchiant a gwerthiant | LLYW.CYMRU.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.