
Mae'r Senedd wedi cymeradwyo Cyllideb Cymru 2025-26, gan ryddhau £1.6 biliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer y GIG, cynghorau, ysgolion a thrafnidiaeth gyhoeddus, er budd pobl a chymunedau ledled Cymru.
Mae'r Gyllideb yn nodi cyfanswm o £26 biliwn o ymrwymiadau gwariant gyda chynnydd sylweddol ar draws holl adrannau'r llywodraeth.
Bydd mwy na £3 biliwn o gyllid cyfalaf yn cael ei neilltuo yn 2025-26 i uwchraddio offer hanfodol yn y GIG ac mewn ysgolion, ac i adeiladu cartrefi newydd, moderneiddio trafnidiaeth gyhoeddus a chefnogi twf economaidd.
Mae'r prif fuddsoddiadau yn cynnwys:
- mwy na £600 miliwn yn ychwanegol i'r GIG a gofal cymdeithasol, i gefnogi ymdrechion i leihau amseroedd aros a gwella gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau iechyd menywod
- £50 miliwn yn ychwanegol i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg ar gyfer plant dwy oed ar draws Cymru a chynyddu'r gyfradd fesul awr i £6.40
- £81 miliwn yn ychwanegol i adeiladu tai cymdeithasol i fynd i'r afael â digartrefedd
- hwb o fwy na £100 miliwn i addysg
- £181.6 miliwn i wella gwasanaethau rheilffyrdd, gan gynnwys moderneiddio Llinellau Craidd y Cymoedd.
- £15 miliwn i ariannu cynllun tocyn bws unffordd am £1 i bobl ifanc o dan 21 oed
- cyllid i greu cynllun trwsio ffyrdd a phalmentydd awdurdodau lleol gwerth £120 miliwn
- £25 miliwn ar gyfer cronfa gwella ffyrdd i wella'r rhwydwaith ffyrdd strategol a fydd yn ein galluogi i wella 100km o'r rhwydwaith a lleihau ac atal tyllau mewn ffyrdd
- cymorth gwerth £335 miliwn i fusnesau, gan gynnwys rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch am y chweched flwyddyn
- sicrwydd o 3.8% o gyllid gwaelodol yn y setliad llywodraeth leol
Daw'r gyllideb i rym o fis Ebrill 2025.
I gael mwy o wybodaeth, cliciwch y ddolen ganlynol: £1.6 biliwn yn ychwanegol ar gael ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus Cymru wrth i'r gyllideb gael ei phasio | LLYW.CYMRU