
Bydd prosiectau ynni gwyrdd ledled Cymru yn rhannu dros £12.9 miliwn i gefnogi eu hymdrechion tuag at gynhyrchu ynni adnewyddadwy lleol.
O osod paneli solar a phympiau gwres i storio batris a phwyntiau gwefru cerbydau trydan, bydd y 48 o brosiectau llwyddiannus yn helpu i sicrhau bod y trawsnewid i ynni glân o fudd uniongyrchol i gymunedau Cymru.
Nod Cynllun Grant Cyfalaf Ynni Cymru yw cyflymu'r gwaith o ddefnyddio Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES) ac mae'n rhan allweddol o nod uchelgeisiol Cymru i gynhyrchu 100% o'i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.
Mae gan SLES fanteision eang gan gynnwys y potensial i leihau costau ynni, creu swyddi lleol ac adeiladu seilwaith ynni mwy gwydn ar gyfer cymunedau lleol.
Mae'n darparu cymorth ariannol i sefydliadau ynni cymunedol, mentrau cymdeithasol, cyrff sector cyhoeddus, a busnesau bach a chanolig sy'n datblygu prosiectau ynni lleol arloesol.
Mae prosiectau llwyddiannus yn y rownd hon yn cynnwys dros £910,000 i Ganolfan Mileniwm Cymru fuddsoddi mewn paneli solar, system storio ynni batri newydd, gwefrwyr cerbydau trydan a solar thermol ar gyfer dŵr poeth – gyda disgwyl i arbedion ynni gael eu hailfuddsoddi yn y gymuned, a bron i £750,000 i Goleg Cambria tuag at greu canolfan ddysgu carbon isel ac adeilad ynni-effeithlon.
Am ragor o wybodaeth ewch i: £12.9 miliwn i gefnogi cymunedau Cymru i drosglwyddo i ynni adnewyddadwy | LLYW.CYMRU
Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, arddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei gael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas, yn ogystal ag ymuno â chymuned gynyddol o sefydliadau blaengar sy’n helpu Cymru i bontio dyfodol carbon isel. Cymryd rhan: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru