Mae 82 o brosiectau ledled Cymru, o weithgynhyrchu uwch a pheirianneg arbenigol i gynhyrchion adeiladu arloesol, yn rhannu £10.87 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu technolegau newydd, gwella cynhyrchiant a chefnogi eu cynlluniau i dyfu.
Dyfarnwyd y cyllid drwy Gronfa Cyfarpar Cyfalaf 2026-27, sy'n rhan o’r rhaglen SMART FIS. Bydd yn helpu busnesau, prifysgolion a sefydliadau ymchwil i fuddsoddi mewn cyfarpar newydd, technolegau newydd a dulliau arloesol o weithio.
Bydd y prosiectau'n galluogi sefydliadau i fabwysiadu technolegau newydd, gweithio'n fwy effeithlon a gwneud gwell defnydd o adnoddau. Bydd hyn yn cryfhau eu cystadleurwydd, yn gwella cynhyrchiant ac yn cefnogi twf economaidd cynaliadwy ledled Cymru.
Ymhlith y sefydliadau sy'n elwa mae Concrete Canvas, cwmni gweithgynhyrchu o Bont-y-clun sy'n cynhyrchu ffabrig llawn concrit sy'n cynnig dewis amgen i goncrit wedi'i dywallt ar gyfer rhai defnyddiau.
Mae gan y cwmni bresenoldeb sefydledig mewn marchnadoedd rhyngwladol, gyda mwy na 90% o'i werthiannau yn dod o allforion. Yn ystod ymweliad diweddar, cafodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni weld sut mae grant gwerth £68,750 gan Lywodraeth Cymru yn helpu'r cwmni i gynyddu ei gapasiti cynhyrchu a gwella cynhyrchiant, gan gefnogi ei gynlluniau i ehangu ymhellach.
Gan gynnwys y cylch diweddaraf hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu mwy na £40 miliwn drwy’r rhaglen SMART FIS ers 2023, gan gefnogi bron i 500 o brosiectau ledled Cymru.
Am fwy o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: £10.87 miliwn i roi hwb i 82 o brosiectau arloesi ledled Cymru | LLYW.CYMRU.
Gall arloesi helpu eich sefydliad i ddod yn fwy cystadleuol, cynyddu gwerthiant ac darganfod farchnadoedd newydd. Yma gallwch ddod o hyd i'r hyn o gyllid a chefnogaeth sydd ar gael i'ch helpu i arloesi: Datblygu syniadau ar gyfer busnes, cynhyrchion neu wasanaethau | Busnes Cymru.