
Bydd pobl ledled y DU yn elwa o gyfleusterau chwaraeon wedi'u huwchraddio yn eu hardal leol diolch i £100 miliwn a fuddsoddwyd gan lywodraeth y DU.
Gan weithio ar y cyd â'r Uwch Gynghrair, Cymdeithas Bêl-droed Lloegr a Sefydliad Pêl-droed y Llywodraeth yn Lloegr, Sefydliad Pêl-droed Cymru, a'r Cymdeithasau Pêl-droed yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, disgwylir i'r cyllid gefnogi cannoedd o gaeau, ystafelloedd newid, pyst gôl a llifoleuadau newydd a gwell i wella mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol i gymunedau lleol.
Bydd yn cael ei dargedu at ardaloedd difreintiedig ac yn cefnogi mwy o fynediad a chyfranogiad ymhlith pobl sydd wedi'u tangynrychioli gan gynnwys menywod a merched, grwpiau lleiafrifoedd ethnig a chwaraewyr anabl.
Mae clybiau a sefydliadau ar draws y DU bellach yn cael eu hannog i ddod ymlaen a gwneud cais am gyllid. Gellir gwneud ceisiadau yng Nghymru drwy Sefydliad Pêl-droed Cymru: Funding - Cymru Football Foundation