Newyddion

£10 miliwn ychwanegol i alluogi busnesau Cymru i anelu at sero net

lightbulb and coins

Mae gwerth £10 miliwn o gyllid ychwanegol ar gael i helpu busnesau Cymru i leihau eu hôl-troed carbon.

Cafodd Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd Llywodraeth Cymru ei lansio gyntaf ym mis Mawrth 2023 a bellach mae’n cael ei ymestyn i £20 miliwn a bydd cyllid ar gael hyd 2028.

Hyd yn hyn, mae dros 30 o fusnesau Cymru wedi elwa ar gymorth wedi'i deilwra drwy’r cynllun, a gyflenwir gan Fanc Datblygu Cymru, a disgwylir i hyn arwain at arbed carbon dros 28,000 tunnell gydol oes eu prosiectau.

Mae hyn yn cynnwys benthyciad o £3.2 miliwn i Thorncliffe Building Supplies o’r Wyddgrug i fuddsoddi mewn gwaith golchi newydd a system trin dŵr a fydd yn lleihau defnydd y cwmni o safleoedd tirlenwi.

Fel un o'r masnachwyr adeiladwyr annibynnol mwyaf yng Ngogledd Cymru, mae Thorncliffe Building Supplies yn darparu ystod eang o gyflenwadau adeiladu, pren, dur, plymio a gwresogi, a llogi peiriannau, ynghyd â gwasanaeth rheoli gwastraff a llogi sgipiau. 

Gyda phum safle ledled Gogledd Cymru yn Nyserth, Ewlo, Rhuddlan, Wrecsam ac Abergele, mae Thorncliffe yn eiddo i'r gŵr a gwraig Deborah a Tim Harper ac yn cael ei reoli ganddynt. Wedi'i sefydlu ym 1987, mae'r cwmni bellach yn cyflogi 265 o bobl.

Gyda phroses ymgeisio syml, mae'r Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd yn cefnogi ystod eang o dechnolegau effeithlonrwydd ynni a charbon isel, gan gynnwys gwresogi, awyru, pympiau gwres, atebion rheoli gwastraff, a gwelliannau i adeiladwaith adeiladau. 

Am ragor o wybodaeth ac arweiniad, ewch i £10 miliwn ychwanegol i alluogi busnesau Cymru i anelu at sero net | LLYW.CYMRU ac Cynllun Benthyciadau Busnes Gwyrdd - Banc Datblygu Cymru.

Mae’r Addewid Twf Gwyrdd yn helpu busnesau Cymru i gymryd camau gweithredol tuag at wella eu cynaliadwyedd, gan ddangos yr effaith gadarnhaol maent yn ei chael ar bobl a lleoedd o’u cwmpas. Cofrestrwch heddiw: Addewid Twf Gwyrdd | Busnes Cymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.