
Mae cyllid newydd bellach ar gael i gefnogi sefydliadau ledled Cymru i ddatblygu Systemau Ynni Lleol Clyfar (SLES), gan helpu i sicrhau bod manteision cynhyrchu ynni yn cael eu cadw a'u teimlo mewn cymunedau lleol.
Mae cynllun grantiau cyfalaf Ynni Cymru gwerth £10m yn rhan allweddol o nod uchelgeisiol Cymru i gynhyrchu 100% o'i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035.
Mae'n darparu cymorth ariannol i sefydliadau ynni cymunedol, mentrau cymdeithasol, cyrff sector cyhoeddus, a busnesau bach a chanolig sy'n datblygu prosiectau ynni lleol arloesol.
Mae'r cynllun grant yn adeiladu ar waith Ynni Cymru, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2023, i hyrwyddo perchnogaeth gymunedol ar ynni adnewyddadwy a llywio'r broses o drawsnewid Cymru i economi carbon isel.
Am ragor o wybodaeth, dewisiwch y ddolen ganylnol: £10 miliwn i gefnogi prosiectau ynni dan arweiniad y gymuned ledled Cymru | LLYW.CYMRU