Mae'r broses a gyflwynwyd gan Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 yn berthnasol i ddatblygiadau seilwaith ar raddfa fawr, gan gynnwys prosiectau ynni adnewyddadwy, gwastraff, dŵr a thrafnidiaeth. Mae'n disodli'r Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol a rhaglenni cydsynio presennol eraill.
Yn gynharach eleni, roedd cyflymder y broses o wneud cais cynllunio ar gyfer eu cynlluniau i adeiladu ar hen safle Ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi creu argraff ar Vantage, sef gweithredwr canolfannau data ar raddfa uwch sy'n buddsoddi biliynau yn economi Cymru drwy adeiladu canolfannau data newydd.
Gan gydnabod y gallai cyflymu'r broses gynllunio ddenu mwy o fuddsoddiad, dywedodd y Prif Weinidog wrth y cynrychiolwyr yn Uwchgynhadledd Fuddsoddi Cymru yr wythnos diwethaf ei bod am wneud Cymru yn un o'r lleoedd cyflymaf yn y byd i wneud penderfyniadau cynllunio gan gynnwys prosiectau seilwaith.
Mae canllawiau yn cael eu llunio i ddatblygwyr sy'n ymwneud ag arferion gorau, gan ganolbwyntio'n arbennig ar ymgysylltu â chymunedau.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Proses newydd i gyflymu cynllunio ar gyfer prosiectau seilwaith a gwneud Cymru'n wlad well i fuddsoddi ynddi | LLYW.CYMRU.