Newyddion

Procurex National 2024

business event

Yn ddigwyddiad rhad ac am ddim i’r sector cyhoeddus a’r trydydd sector, mae Procurex National 2024 yn gyfle perffaith i weithwyr caffael proffesiynol o’r un anian wneud cysylltiadau newydd â chyd-brynwyr cyhoeddus a chyflenwyr preifat, er mwyn datblygu eu sgiliau, a rhannu arferion gorau i’w defnyddio yn y dyfodol.

Mae Procurex National yn caniatáu i brynwyr sy’n rhan o gymuned gaffael y DU gwrdd â chyflenwyr blaenllaw sy’n darparu ystod amrywiol o gynhyrchion a gwasanaethau arloesol i gefnogi gofynion caffael heddiw ac yn y dyfodol.

Cynhelir y digwyddiad ar 16 Mai 2024 yn The Exhibition Centre, Lerpwl.

Mae Procurex National 2024 yn cynnig pecynnau nawdd ac arddangos sydd wedi’u cynllunio’n benodol ar gyfer darparu cyfleoedd i fusnesau o bob maint sydd eisiau creu argraff yn y farchnad caffael cyhoeddus.

Mae tocynnau ar gyfer sefydliadau’r sector preifat yn cynnwys mynediad i bob agwedd o’r digwyddiad ac yn costio £145 +TAW.

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Gwybodaeth am Procurex National 2024

GwerthwchiGymru

Mae GwerthwchiGymru yn ffynhonnell wybodaeth a phorth caffael a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau ennill contractau sector cyhoeddus ar draws Cymru a helpu prynwyr yn y sector cyhoeddus i hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendro. Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: GwerthwchiGymeu: Croeso I GwerthwchiGymru - GwerthwchiGymru (llyw.cymru) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.