Mae Busnes Cymru yn un o bartneriaid balch Procurex Cymru 2026, a gynhelir ddydd Mercher 11 Tachwedd yn Utilita Arena Caerdydd.
Bydd dros 1,200 o brynwyr a chyflenwyr yn mynychu’r digwyddiad o bob rhan o farchnad Cymru ym maes caffael cyhoeddus, sy’n werth £11.4+ biliwn. Felly, dyma’r llwybr mwyaf uniongyrchol i gyrraedd y bobl sy’n gwneud penderfyniadau am gaffael yng Nghymru.
O ddeall blaenoriaethau caffael arfaethedig i greu cysylltiadau gwerthfawr â sefydliadau’r sector cyhoeddus, mae Procurex Cymru yn cynnig dealltwriaeth ymarferol a chyfleoedd i rwydweithio ar gyfer busnesau sy’n awyddus i dyfu yn y sector cyhoeddus.
Tocynnau am ddim yn cael ei cynnig:
Fel un o bartneriaid Procurex Cymru, gall Busnes Cymru gynnig nifer gyfyngedig o docynnau am ddim (sydd fel rheol yn costio £195 + TAW) ar gyfer y digwyddiad undydd. Caiff y tocynnau eu rhoi ar sail y cyntaf i’r felin — Complimentary Ticket - Business Wales - Manylion y Cynrychiolydd / Delegate Details
Sicrhewch le ar gyfer eich stondin arddangos:
Mae nifer gyfyngedig o stondinau arddangos ar gael o hyd. Mae Procurex Cymru yn dod â thros 1,200 o brynwyr a phobl sy’n gwneud penderfyniadau am gaffael — y mae 67% ohonynt yn uwch-swyddogion neu’n gweithio ar lefel uwch na hynny — ynghyd mewn un ystafell am un diwrnod. Dyma gynulleidfa sy’n cynrychioli sefydliadau o bob rhan o’r sector cyhoeddus yng Nghymru, sy’n cynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y GIG, y sector tai, y sector addysg a’r gwasanaethau brys, felly mae’n gynulleidfa y mae’n wirioneddol anodd ei chyrraedd mewn unrhyw ffordd arall.
I gael gwybod mwy, cysylltwch â thîm Procurex Cymru: Ffon: 0141 739 5383 neu e-bostiwch: exhibitions@procurexwales.co.uk