Procurex Cymru 2026 yw’r prif ddigwyddiad ar gyfer cyflenwyr ac ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y sector cyhoeddus, a’i bwrpas yw trawsnewid economi Cymru drwy arferion caffael sy’n arloesol ac yn gynaliadwy.
Yn cael ei gynnal ddydd Mercher 11 Tachwedd yn Arena Utilita Caerdydd, mae Procurex Cymru yn gynulliad cenedlaethol cymuned caffael cyhoeddus Cymru.
Mae’r digwyddiad yn dod â arweinwyr y sector cyhoeddus, gweithwyr proffesiynol ym maes caffael a chyflenwyr ynghyd ar gyfer diwrnod canolbwyntiedig o fewnwelediad, trafodaeth a chysylltu. Mae’n rhoi darlun clir o’r blaenoriaethau presennol a’r cyfleoedd yn y dyfodol ar draws marchnad sector cyhoeddus Cymru gwerth biliynau o bunnoedd.
I fynychwyr y sector cyhoeddus, mae’n gyfle i rannu profiad, archwilio atebion ymarferol a chryfhau cydweithio. I gyflenwyr, mae’n cynnig mynediad uniongyrchol at benderfynwyr a llwyfan cryf i arddangos gallu, meithrin perthnasoedd a thyfu o fewn sector cyhoeddus Cymru.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Procurex Cymru.
Cyfleoedd contractau sector cyhoeddus yng Nghymru: Mae GwerthwchiGymru yn ffynhonnell wybodaeth ac yn borth caffael a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau ennill contractau sector cyhoeddus ar draws Cymru ac i helpu prynwyr yn y sector cyhoeddus hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendro. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: GwerthwchiGymru: Croeso i GwerthwchiGymru - GwerthwchiGymru (llyw.cymru).