Newyddion

Procurex Cymru 2025: Yn dod â’r sawl sy’n caffael yng Nghymru ynghyd

Procurex Cymru

Ddydd Mawrth 4 Tachwedd, bydd dros 1,000 o weithwyr proffesiynol ym maes caffael a chyflenwyr yn dod ynghyd yn yr Utilita Arena yng Nghaerdydd ar gyfer Procurex Wales 2025, sef y digwyddiad cenedlaethol a fydd yn canolbwyntio ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru.

Caiff y digwyddiad ei gynnal mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ynghyd â rhanddeiliaid allweddol megis GwerthwchiGymru, Busnes Cymru, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac mae’n hybu cydweithio a rhannu gwybodaeth ar draws sector sy’n gyfrifol am £10.7 biliwn o wariant cyhoeddus bob blwyddyn.

Tocynnau am ddim yn cael eu cynnig 

Fel un o bartneriaid y digwyddiad hwn, rydym wedi cael nifer gyfyngedig o docynnau am ddim, eu pris arferol yw £195+TAW, ar gyfer cynrychiolwyr o’r sector preifat a fydd yn cofrestru. Dilynwch y ddolen hon, Procurex Cymru, i gael eich tocyn am ddim (mae’r tocynnau ar gael ar sail y cyntaf i’r felin).

Os hoffech gymryd rhan yn fwy helaeth yn y digwyddiad, gallwch gysylltu â’r trefnwyr drwy anfon ebost i exhibitions@procurexwales.co.uk er mwyn trafod cyfleoedd i arddangos a noddi. 

Pam cymryd rhan? 

Mae’r digwyddiad eleni’n cael ei gynnal ar adeg hollbwysig oherwydd bod y Ddeddf Caffael, Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) a’r Rheoliadau perthnasol wedi dod i rym erbyn hyn, ac y bydd mesurau penodol i Gymru yn dilyn yn fuan dan Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru). Mae Procurex Cymru yn cynnig cyfle hanfodol i dimau caffael a chyflenwyr gael y wybodaeth ddiweddaraf a pharatoi ar gyfer y newidiadau sydd i ddod.

Bydd yr agenda’n cynnwys Cynhadledd Caffael Cymru, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac a fydd yn trafod themâu megis cynaliadwyedd, trawsnewid digidol, cydnerthedd cyflenwyr, a chynnwys busnesau bach a chanolig.

Bydd y sawl a fydd yn bresennol yn cael budd hefyd o bedwar Parth Datblygu Sgiliau:

  • Arloesi a Thechnoleg.
  • Caffael Cynaliadwy a Chymdeithasol.
  • Cydweithio a Phartneriaeth.
  • Rheoli Contractau a Risg, a fydd yn cynnig hyfforddiant wedi’i ardystio gan CPD ac yn cynnwys arbenigwyr i wella dealltwriaeth.

Bydd dros 80 o gyflenwyr yn arddangos eu hatebion yn yr Arddangosfa Gynnyrch, ac yn creu man lle gall prynwyr a chyflenwyr ymgysylltu’n ystyrlon â’i gilydd.

Ynghanol y digwyddiad, bydd Pafiliwn Caffael Llywodraeth Cymru yn rhoi cyfle i’r cynrychiolwyr siarad yn uniongyrchol ag arweinwyr polisi a darparwyr fframweithiau.     

Gallwch ddysgu mwy a chofrestru yma: www.procurexwales.co.uk 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.