Newyddion

Procurex Cymru 2025

People taking a break at a conference

Cynhelir Procurex Cymru ar 4 Tachwedd 2025 yn Arena Utilita, Caerdydd, a dyma’r prif ddigwyddiad ar gyfer unrhyw un sy’n ymwneud â llunio dyfodol caffael cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’n fwy na dim ond dyddiad yn y calendr, mae Procurex Cymru yn tynnu ynghyd y bobl, y syniadau a’r datblygiadau arloesol sy’n cymell cynnydd ar draws sector cyhoeddus Cymru, sy’n werth £8.32bn a mwy.

P’un a ydych chi eisoes yn darparu i’r sector cyhoeddus neu’n awyddus i ymuno â’r farchnad hanfodol hon, mae’r digwyddiad yn cynnig diwrnod penodol o rannu gwybodaeth, dealltwriaeth newydd a sgyrsiau ystyrlon gyda’r cynllunwyr, y penderfynwyr a’r dylanwadwyr sy’n arwain y ffordd.

Gyda rhaglen lawn dop o gynnwys arbenigol ac arddangosfa fywiog o atebion, mae Procurex Cymru yn rhoi cyfle i chi edrych ar ffyrdd newydd o weithio, mynd i’r afael â heriau cyffredin a helpu i adeiladu Cymru gryfach a mwy cynaliadwy.

I gyflenwyr - rhai sefydledig neu ddarpar gyflenwyr – mae’r pecynnau arddangos a noddi’n darparu llwyfan pwerus i ddangos arloesedd, i rannu atebion sy’n arbed costau ac i gysylltu’n uniongyrchol â chymuned caffael cyhoeddus Cymru.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Procurex Cymru 2025

Cyfleoedd contractau sector cyhoeddus yng Nghymru:Mae GwerthwchiGymru yn ffynhonnell wybodaeth ac yn borth caffael a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i helpu busnesau ennill contractau sector cyhoeddus ar draws Cymru ac i helpu prynwyr yn y sector cyhoeddus hysbysebu a rheoli cyfleoedd tendro. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma: GwerthwchiGymru: Croeso i GwerthwchiGymru - GwerthwchiGymru (llyw.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.