Mae ymgyrch ar-lein newydd yn helpu busnesau yn y DU i wneud eu prisiau yn gliriach ac osgoi trafferthion cyfreithiol.
Mae'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) wedi lansio ei ymgyrch Prisio Clir i annog busnesau'r DU i fod yn agored, yn dryloyw ac yn deg gyda'u cwsmeriaid. Mae'r ymgyrch yn tynnu sylw at 'Gwiriad Prisio 3 Cham' newydd y CMA y gall busnesau ei ddefnyddio i wirio bod eu harferion prisio yn gyfreithlon ac nad yw cwsmeriaid yn wynebu costau annisgwyl wrth y ddesg dalu.
Mae'n anghyfreithlon cuddio ffioedd gorfodol ychwanegol (fel ffi archebu neu ffi ddosbarthu), trethi neu daliadau eraill tan yn hwyr yn y broses brynu - arfer a elwir yn brisio cudd (drip pricing).
Mae ymgyrch y CMA yn rhoi modd i fusnesau sy’n brin o amser wirio eu bod yn cydymffurfio drwy symleiddio'r rheolau yn 3 cham y mae modd eu gweithredu wrth brisio eu cynhyrchion:
- Dangos cyfanswm y pris ymlaen llaw
- Cynnwys yr holl ffioedd gorfodol
- Os na allwch roi cyfanswm eto, a yw'n glir sut y gall cwsmeriaid ei gyfrifo?
Mae'r gwiriadau wedi'u cynllunio i gefnogi busnesau sydd am wneud y peth iawn trwy wneud prisio ymlaen llaw y normal newydd a meithrin ymddiriedaeth cwsmeriaid.
Am ragor o wybodaeth cliciwch ar y ddolen hon: 3 Step Pricing Check - Clear Pricing ac Providing clear and accurate information about prices: summary - GOV.UK.