
Y Prif Weinidog, Eluned Morgan, yn cyhoeddi cronfa newydd i gymunedau ledled Cymru i'w helpu nhw i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi y flwyddyn nesaf.
O heddiw (14 Hydref 2025) ymlaen, bydd modd gwneud ceisiadau ar gyfer gweithgareddau i geisio dod â chymunedau ynghyd i ddathlu diwrnod nawddsant Cymru, Dewi Sant, ar 1 Mawrth. Gallai gweithgareddau gynnwys gorymdeithiau, perfformiadau cerddorol, gweithdai cymunedol, twmpathau neu ddigwyddiadau sy'n ymwneud â bwyd.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £1 miliwn ar gyfer digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi 2026.
Bydd sefydliadau'n gallu gwneud cais am dair lefel o gyllid, o grwpiau cymunedol bach i sefydliadau cenedlaethol mawr.
Gall grwpiau lleol wneud cais am grantiau gwerth rhwng £500 a £5,000 i gynnal digwyddiadau lleol neu gymdogaeth. Bydd hyd at £20,000 ar gael i sefydliadau rhanbarthol, fel awdurdodau lleol, a hyd at £40,000 i sefydliadau Cymru gyfan i gynnal gweithgareddau ar lefel genedlaethol.
I ddarllen y cyhoeddiad ewch i Llyw.Cymru