Newyddion

Prentisiaid yr Urdd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf yn y Gymraeg

Welsh language Secretary Mark Drakeford met apprentices and learners at a visit to the school.

Mae prentisiaid o'r Urdd yn helpu i ysbrydoli disgyblion mewn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg i ddefnyddio mwy o Gymraeg drwy glwb chwaraeon wythnosol.

Mae Yusuf Billie a Hudhayfah Arish yn gweithio gydag Ysgol Gynradd Mount Stuart yng Nghaerdydd fel prentisiaid ar gyfer mudiad ieuenctid mwyaf Cymru, Urdd Gobaith Cymru. Mae eu clwb chwaraeon yn rhoi'r cyfle i ddysgwyr ddefnyddio'r Gymraeg drwy weithgareddau cymunedol.

Mae prentisiaethau drwy'r Urdd yn helpu i adeiladu gweithleoedd dwyieithog drwy gynnig cyfleoedd i unigolion ddysgu, datblygu'n bersonol ac yn gymdeithasol, a gwella eu hyder wrth ddefnyddio'r Gymraeg. Mae Adran Brentisiaethau'r Urdd wedi ymrwymo i ysbrydoli teithiau gyrfa pobl, gan gynorthwyo cyflogwyr i ddatblygu staff cymwys a diwallu'r angen am weithlu sy'n siarad Cymraeg yng Nghymru.

Mae'r ddau brentis sy'n rhedeg y clwb yn newydd i'r iaith, ar ôl mynychu ysgol cyfrwng Saesneg. Maen nhw bellach yn cymryd rhan mewn gwersi Cymraeg dyddiol drwy'r Urdd a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae'r dull arloesol o ddysgu Cymraeg wrth wneud prentisiaeth yn helpu i greu gweithlu dwyieithog ar gyfer y dyfodol.

Yr Urdd yw un o'r cyflogwyr Cymraeg mwyaf a'r phrif ddarparwr prentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg yn y trydydd sector yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol: Prentisiaid yr Urdd yn ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf yn y Gymraeg | LLYW.CYMRU

Mae llawer o resymau da i chi i ddefnyddio'r Gymraeg yn eich busnes, a ph'un a ydych yn fenter fawr neu fach, mae mwy o gymorth nag erioed o'r blaen i helpu: Cymraeg Yn Eich Busnes | Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.