
Mae daearyddiaeth unigryw, lleoliad strategol a degawdau o arbenigedd morwrol a diwydiannol yn gosod porthladdoedd Cymru yn borth naturiol i ddatgloi potensial rhyfeddol gwynt ar y môr.
Dyna'r neges gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans, wrth iddi lansio Prosbectws Porthladdoedd Llywodraeth Cymru yng nghynhadledd Dyfodol Ynni Cymru heddiw (7 Hydref).
Rhagwelir y bydd y sector gwynt ar y môr yn creu 29,000 o swyddi, yn sicrhau effaith economaidd o £4.5 biliwn, ac yn pweru dros bedair miliwn o gartrefi ledled Cymru erbyn 2030. Rhagwelir y bydd cyfanswm capasiti gwynt ar y môr yn cyrraedd dros 20 gigawat ledled Cymru erbyn 2045.
Wedi'i leoli lai na 50km o ardaloedd datblygu dynodedig yn y Môr Celtaidd, gydag arfordir sy'n darparu harbyrau dŵr dwfn naturiol a chadwyni cyflenwi sefydledig, mae'r Prosbectws yn dangos sut mae porthladdoedd Cymru mewn sefyllfa unigryw i fanteisio ar y cyfle hwn.
Mae hyn ochr yn ochr â'r cyfle presennol oddi ar arfordir gogledd Cymru, lle mae dros 500 o dyrbinau gwynt eisoes wedi'u lleoli o Borthladd Mostyn, a lle mae Cymru yn gartref i fferm wynt ar y môr cyntaf â gwaelod sefydlog yn y DU.
Mae dau Borthladd Rhydd Cymru yn darparu cymhellion treth i fuddsoddwyr, prosesau tollau symlach, a safleoedd sy'n barod ar gyfer eu datblygu, tra bod ystod eang o gymorth ariannol ar gael i gwmnïau drwy raglenni buddsoddi a seilwaith. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi mewn sgiliau ynni adnewyddadwy ledled Cymru.
Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Porthladdoedd Cymru mewn sefyllfa unigryw i ddatgloi cyfleoedd gwynt ar y môr | LLYW.CYMRU.